Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd "yn y seiat"—un oedd yn bregethwr. Ac mae yma wers i ni i fod ar ein gwyliadwriaeth, rhag ein bod yn dwyn cysylltiad a chrefydd yn allanol, ac eto bod yn offerynau yn llaw y diafol i wneyd mwy o niwed i grefydd nag y gallasem pe na buasem yn dwyn cysylltiad â chrefydd o gwbl. Trwy bwy y mae y diafol yn hyrwyddo mwyaf ar ei deyrnas yn ein dyddiau ni? Ai trwy y meddwyn cyhoeddus? Ai trwy yr anffyddiwr proffesedig? O nage, ond trwy y dyn yna sydd yn cymeryd rhan amlwg yn ngwasanaeth crefydd ar y Sabboth, yn athraw hwyrach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn twyllo ei gymydog tu ol i'r counter ddydd Llun y bore, neu yn y dafarn, yn nghanol y meddwon a gwatworwyr, nos Lun. Dyna ddyn wrth fodd calon y diafol. Mae y dyn yna yn cario dagr o dan ei fantell, ac yn trywanu crefydd yn ei chalon ger gwydd y byd!

Yr oedd Cain yn addolwr. Wrth yr allor y mae efe ac Abel yn cydgyfarfod i gyflwyno eu gwasanaeth i Dduw; canlyniad yr hyn a fu i'r