Gwelsom ambell un cyn hyn, nad oedd nemawr uwch na'r anifail, yn cymeryd y prize am y ffarm. orau. "Cain oedd yn llafurio y ddaear."
Ond y mae rhyw dir cyffredin ac y mae gwahanol gymeriadau yn cydgyfarfod arno. Ar rai achlysuron bydd y tylawd a'r cyfoethog, yr haelionus a'r cybyddlyd, y pur a'r halogedig, y Phariseaid a'r publican, yn cydgyfarfod. Ac felly yma. Mae Cain ac Abel yn cydgyfarfod i addoli. Nid oedd Cain yn anffyddiwr, er cynddrwg oedd. Yr oedd ôl bysedd y Creawdwr yn rhy newydd ac iraidd ar natur o'i gwmpas iddo ef allu bod yn anffyddiwr. Nid oedd gan Cain ond rhyw un cam i'w roddi yn ol—ac yna Duw oedd y cwbl—tu hwnt i'w dad, nid oedd yno ddim i'w weled ond y Duw tragywyddol yn llenwi dystawrwydd anfeidroldeb! Na, yr oedd yn rhy gynnar o lawer i'r diafol allu gwneyd neb yn atheist nac yn anffyddiwr. Ac yn wir, nid yw y diafol yn gofalu cymaint am i neb fod yn anffyddiwr, os gall ei wneyd yn dwyll-grefyddwr.
A ddarfu i ni sylwi mai trwy offerynoliaeth crefyddwyr digrefydd—Os oes ystyr i'r fath ymadrodd y mae y diafol wedi dwyn oddiamgylch ei weithredoedd mwyaf anfad? Pan