Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfleusdra yma wedi dyfod mor fuan ag y buasai yn ei ddymuno, ac o ganlyniad efe a benderfynodd wneuthur cyfleusdra i'r pwrpas hwnw. Fe ddywedir fod yn nghyfieithiad y Deg a Thriugain dri gair bach yn Gen. iv. 8, nad ydynt i'w cael yn ein cyfieithiad ni. Mae yr adnod yn Gymraeg yn darllen fel hyn:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes," &c. Gwelwn nad ydyw yr adnod yn Gymraeg yn dyweyd wrthym beth a ddywedodd Cain. Ond fel hyn y darllena yr adnod yn y Deg a Thriugain:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, Awn i'r maes; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef." Os oes awdurdod i'r cyfieithiad yna, y mae yn rhoi ar ddeall i ni mai nid rhyw feddwl sydyn yn Cain oedd lladd ei frawd, ond hen fwriad wedi tyfu ac addfedu yn ei galon ddrygionus, ac mai ei amcan wrth wahodd ei frawd i'r maes i roi tro oedd, cario allan y bwriad hwnw.

Edrychwch ar y ddau yn myned i'r maes: un yn nghanol ei ddiniweidrwydd, y llall yn gwisgo gwên dwyllodrus i gadw drwgdybiaeth draw. Mae yn awr yn colli ei ddewrder dan rym cyhuddiadau cydwybod ; mae ei nerves yn