Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwanhau; ond drachefn y mae yn adfeddiannu ei nerth, yn edrych yn wyllt o'i gwmpas rhag ofn bod rhywun yn gwylio. Ond anghofiodd, druan, edrych i fyny. Ac yno y mae yn rhuthro ar ei frawd, ac yn ei glwyfo yn farwol! Mae yr olygfa yn tragical i'r eithaf! Prin y gallwn ddychymygu beth oedd teimladau Abel pan yn marw dan law ei frawd, a llawer llai teimladau Cain pan y darfu iddo sylweddoli ei fod yn llofrudd, ac yn llofrudd ei frawd! Mae ei gydwybod yn deffro fel arthes wedi colli ei chenawon; o'r braidd mae yn gallu credu ei fod wedi medru cyflawni y fath weithred ysgeler. Mae yn edrych ar ei ddwylaw mewn ammheuaeth; ond y mae y rhai hyny yn goch gan waed; mae ei dalcen yn wlyb gan chwys oer; mae yn gweled y lle yn dechre troi o'i gwmpas, ac y mae yn cychwyn ffoi. Ond y mae meddwl arall yn ei daraw: mae yn rhoi un edrychiad gwyllt o'i gwmpas, ac yna y mae yn prysuro i gladdu ei frawd yn y ddaear. Mae yn edrych o'i amgylch unwaith eto, ac yna yn dianc. Ond cyn iddo fyned ymhell, dyna lef fel taran yn ei attal: "Cain, mae Abel dy frawd?" Ac fel pob drwgweithredwr ar ei ol, wrth gael ei ddal, dyna y celwydd yn dyfod allan y gair cyntaf,