fel saeth i fewn trwy un ffenestr, a thrwy y llall allan; ac yna yn gwneyd tro hirgrwn, ac yn gwneyd yr un peth drachefn, nes boddloni ei hunan nad oedd yn yr hen dŷ neu yr hen ysgubor wag ddim i'w niweidio; ac yna y mae yn eistedd ar y trawst, ac yn canu yno, ac o'r diwedd yn gwneyd ei nyth yno, ac yn cenedlu ei rhyw? Dyna ddarlun i ni o galon dyn a phechod. I'r galon, fel y nodasom, y mae pechod yn dyfod gyntaf, mewn meddwl drwg. Gwyliwn roddi croesaw iddo. Oblegid os caiff pechod wneyd ei nyth yn nghalon dyn, y mae yn sicr o fagu ei ryw, a thori allan mewn gweithredoedd drwg, ac yn y diwedd adael dyn mewn anobaith—ei adael yn wibiad! "Gwibiad a chrwydriad fyddi." Yr un fath â'r seren wib, wedi tori dros derfyngylch yr haul, yn ffoi o hyd, heb wybod i ba le y mae yn ffoi, ac eto yn methu peidio ffoi; wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei gyru ymhellach oddiwrth yr haul. Dyna ddarlun o ddyn wedi i bechod wneyd ei waith arno. Gwibiad ydyw yn llywodraeth Duw; creadur wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei yru yn ddyfnach i drueni, ac ymhellach oddiwrth Awdwr ei fodolaeth a chanolbwynt ei ddedwyddwch.
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/197
Gwedd