Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithredu wrth yr un reol tuag at bawb o honom. Pe gallai dyn deimlo, hyd yn nod yn ngholledigaeth, mai nid arno ef yr oedd y bai ei fod yno—ei fod wedi gwneyd ei oreu yn llwybr Duw a'r efengyl i beidio myned i ddystryw, ac eto ei fod wedi methu—pe gallai dyn deimlo felly, meddem, byddai y dyn hwnw wedi lleddfu y naill hanner o'i boenedigaeth. Ond nid felly y bydd; yn hytrach fe fydd yna argyhoeddiad dwfn a thragywyddol yn enaid y dyn colledig mai arno ef ei hun yr oedd y bai, ei fod wedi cael pob cyfleusdra i fod yn gadwedig, fod yr un croesaw yn ei aros ef ag oedd yn aros eraill a wnaethant ddefnydd o hono; a dyma fydd yn ysu ei enaid byth, fod y cyfrifoldeb o fod yn golledig yn gorwedd yn gwbl wrth ei ddrws ef ei hunan.

Nid allwn lai na gweled hefyd yn yr hanes yr hyn y mae pechod yn dwyn dyn iddo wedi iddo wneyd ei waith arno. I'r galon y mae pechod yn dyfod gyntaf mewn meddwl drwg. A ddarfu i ni sylwi, wrth rodio yn y wlad, ar yr hen dŷ gwag, a'r ffenestri wedi tori; neu yr hen ysgubor wag, heb neb yn ei mynychu; ac a ddarfu i ni sylwi ar y wenol ddyeithr yn dyfod yn ei thymimor, ac yn myacd ar ei ehediad