Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae y gweddill o hanes Cain yn cael ei adrodd mewn ychydig eiriau; ond nid oes genym fwriad i'w ddilyn gyda dim manyldeb ymhellach. Nid ydyw yr hanes heb ei wersi.

Y fath amlygiad sydd yma o anmhleidgarwch yr Arglwydd. Mae yn wir ei fod wedi dangos ei foddlonrwydd i Abel, a'i anfoddlonrwydd i Cain. Ond paham y darfu iddo wneyd hyn? A ddangosodd yr Arglwydd ryw ffafr dueddgar i Abel? Mae yr hanes yn dywedyd yn wahanol. "Os da y gwnai," meddai Duw wrth Cain, "oni chai oruchafiaeth? Ac oni wnai yn dda, pechod a orwedd wrth y drws." Ymddyga di, fel pe dywedasai Duw, yr un fath ag Abel dy frawd, ac fe fydd yr un gymeradwyaeth yn dy aros di ag a dderbyniodd yntau. Ac nid yn unig hyny, ond y mae yn ymddangos mai Cain a gawsai y gymeradwyaeth gyntaf, pe buasai wedi dyfod ymlaen yn yr ysbryd priodol a chyda'r offrwm priodol. "Atat ti y mae ei ddymuniad ef hefyd, a thi a lywodraethi arno ef." Tydi ydyw y mab hynaf, ebe Duw, a chenyt ti y mae yr hawl gyntaf i'r fendith a'r gymeradwyaeth. Nid oedd gan Cain yr un gair i'w yngan yn erbyn cyfiawnder y ddedfryd a gyhoeddwyd arno. Fe fydd Duw yn