Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei Addysg

Nid oes sicrwydd i ba le yr anfonwyd ef am addysg gyntaf. Ni ddarfu ein hysbysu yn ei adgofion. Y mae yn wir ei fod yn rhoddi desgrifiad o Rhys Lewis yn myned y tro cyntaf i Ysgol Robert y Sowldiwr, eto ni ddylid cymryd yr hanes hwn yn ddesgrifiad llythrennol o fore oes y Nofelydd. Bu yna ysgol yn cael ei chynnal gan hen filwr yn rhan o'r Wyddgrug a elwir y Bedlam, ond yr oedd hyny cyn geni awdur Rhys Lewis. Yr oedd yna Ysgol Eglwysig yn cael ei chadw y pryd hwn yn Ponterwyl, ar yr ochr ddwyreiniol i orsaf y Rheilffordd. Y mae rhanau o'r muriau yn aros hyd heddyw. Y tebyg ydyw ei fod wedi mynychu yr ysgol hon am ychydig amser, er nas gellir bod yn gwbl sicr. Wele'r cyfeiriad at yr ysgol hon yn y Dreflan,— "Cyn dechreuad yr Ysgol Brydeinig yn y Dreflan, yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r Eglwys o leiaf unwaith bob Sabboth, neu ynte orfod goddef triniaeth yr hold out ddydd Llun y bore. Yr wyf yn cofio yn dda am lawer awr y bu raid i mi ei threulio yn yr hen Eglwys o fewn i'r eisteddleoedd dyfnion, o ba le yr oedd yn amhosibl bron i mi weled y Person, o herwydd bychander fy maintioli