Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dyfnder y sêdd, na ychwaith ddeall ond ychydig o'r hyn a ddwedai efe. Yn wir, nid oeddwn yn gofalu rhyw lawer beth a ddywedai y gŵr eglwysig, canys fy mhryder mawr i fyddai gallu edrych yn ddifrifol pan fyddai yr "hen ffoniwr," fel y gelwid ef gan y plant, yn myned heibio, yr hwn a gerddai yn ol a blaen ar hyd yr Eglwys yn ystod yr holl wasanaeth cyn ddistawed â chath, a gwialen gref yn ei law, gweinyddu'r hon ar ein penau a'n hysgwyddau oedd yn fforddio dirfawr ddifyrrwch iddo, goeilem ni. Yn y cyfnod hwnw ar fy oes, yr oeddwn yn teimlo rhyw barchedigaeth mawr i'r adeilad henafol a gwych, ac yr oedd rhyw ddirgelwch ac ofnadwyaeth i mi ynglŷn â llawer o bethau perthynol iddi." Yr ysgol-feistr ar y pryd ydoedd gŵr o'r enw John Roberts. Prif noddwr yr ysgol ydoedd y Parch. Charles Butler Clough, M.A. — wedi hyny Deon Clough o Lanelwy, desgrifiad o'r hwn a geir yn ddiau yn Mr Brown, y Person. Disgwylid i'r plant a fynychent yr ysgol — a dyma yr unig ysgol y pryd hwnw i blant tlodion yr Wyddgrug — (yr oedd yna ysgol breifat i'r hon yr anfonid plant rhieni allent fforddio talu) i fyned i wasanaeth yr Eglwys. Ond gadawodd Daniel yr