Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgol hon yn rhy ieuanc i dderbyn nemawr o argraph, oblegid yn y flwyddyn 1845 cychwynnwyd yr Ysgol Frytanaidd. Diamheu i'r cyfeillion Ymneillduol yn y dref gael eu symbylu i adeiladu yr Ysgol Frytanaidd, o herwydd yr orfodaeth a roddid ar eu plant i fyned i wasanaeth yr Eglwys, oblegid wythnos cyn agor yr Ysgol Frytanaidd, cyhoeddodd yr ysgol-feistr yn Ponterwyl fod rhyddid i holl blant yr Ymneillduwyr i fyned gyda'u rhieni ar y Sabboth. Pa fodd bynnag, pan agorwyd yr Ysgol Frytanaidd, ymadawodd oddeutu hanner y plant o'r Ysgol Eglwysig, ac yn eu plith, mae'n debyg, Daniel Owen, oblegid y mae yn sicr ei fod yn bresennol ar agoriad yr ysgol hono. Ysywaeth, nid yw wedi adrodd dim o hanes y blynyddoedd hyn yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato. Yn ol ydym wedi casglu gan rai o'i gyfoedion, nid oedd dim hynod ynddo pan oedd yn blentyn yn yr ysgol. Cymmerai ei ran mewn chwaraeon gyda y plant, er nad oedd yn fachgen cryf iawn. Tueddai braidd at fod yn ddistaw, os nad yn yswil. Ni thynnodd sylw neb yn ystod y blynyddoedd hyn, fel yn meddu unrhyw allu arbenig. Enw yr athraw yn yr Ysgol Frytanaidd ydoedd William Davies, ac er bod yr enw yn un digon