Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hysbysrwydd ynghylch y cyfnod hwn — yn cael "cwpaned o de" ynghyd â cheiniog yr un bob prydnawn Sadwrn, gan Ann Jones, gwraig John Angell Jones, gyda chyngor priodol pa fodd i'w defnyddio. Ymhen blwyddyn daeth i dderbyn 2/- yn yr wythnos, ac felly codwyd swllt bob blwyddyn yn y cyflog hyd y bumed flwyddyn, pan y daeth yn rhydd o'i brentisiaeth. Ond ni ddylid anghofio hefyd fod y meistr wedi dangos llawer o garedigrwydd tuag at ei egwyddorwas drwy roddi iddo ddilladau yn ystod tymhor ei brentisiaeth. Diamhau fod dyfod o dan arolygiaeth Angell Jones wedi bod yn fendith fawr iddo, ac yr oedd yn ddiau yn fwy dyledus iddo mewn ystyr grefyddol na neb arall. Dyma fel yr ysgrifena am ei hen feistr,- "Mae genyf lawer o achos diolch i mi gael myned dan ofal yr hen Angell, o herwydd cyn hyny yr oeddwn wedi dechrau ymhoffi mewn cwmni drwg. Yr oedd y rheolau yn fanwl gydag ef. Byddai raid i mi fod tair gwaith yn y capel ar y Sul, ac ymhob moddion ganol yr wythnos." Bu Angell Jones yn lle tad i'r egwyddorwas ieuanc. Nid yn unig dysgodd iddo ei alwedigaeth, ond gofalai am ei gymeriad. Yr oedd y seiat plant mewn bri yn yr Wyddgrug yr adeg hon, a