Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofalai yr hen flaenor am i Daniel fynychu y cyfarfod hwn gyda chysondeb. Y mae yn amlwg i'r cyfarfod hwn adael argraph ddofn ar ei feddwl. Dyma fel y disgrifia seiat y plant yn Hunan-Gofiant Rhys Lewis:-

"Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuangc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presenoldeb ynddi yn gyson; oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absenolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cyn sicred a'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulustra."

Ni fethem wrth ddweyd fod Daniel Owen yn ddyledus yn benaf am ei hyfforddiant crefyddol, fel y cydnabyddai efe ei hun, i ofal ei hen feistr caredig a chrefyddol Angell Jones. Bendith anrhaethol oedd iddo dd'od i gydnabyddiaeth agos, a than ddylanwad y fath un yng nghyfnod pwysicaf ei fywyd.