Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn flaenor amlwg yn yr Wyddgrug, ac yn wir, Sir Fflint, am flynyddau — a Mr Peter Roberts, Y.H., Llanelwy, gŵr ag sydd yn dra hysbys ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid Calfinaidd.

Diau fod yna ysbrydiaeth farddonol a llenyddol yn yr Wyddgrug ers blynyddoedd. Yma y ganwyd ag y magwyd y Parch. John Blackwell (Alun). Yr oedd y Parchn. Roger Edwards a Thomas Jones (Glan Alun), yn feirdd adnabyddus, a'r Parch. Owen Jones yn hanesydd; Darfu i'r cyfarfod cystadleuol blynyddol, a gynhelid ar y Nadolig, symbylu a rhoddi cyfeiriad i allu barddonol a llenyddol amryw o wŷr ieuainc, amryw o ba rai a ddaethant yn hysbys ymhell tu hwnt i dref yr Wyddgrug, a chreodd awyrgylch lenyddol yn y dref a adawodd ei hôl yn amlwg ar y rhai oedd yn ieuanc y pryd hwnnw. Y mae yn amheus genym a oedd yma un dref yng Nghymru mor llawn o ysbryd llenyddol ag ydoedd tref yr Wyddgrug yn y cyfnod hwn.

Rhoddid £2 yn wobr am draethawd, a £2 yn wobr am bryddest, a sicrheid rhai o lenorion gorau ein gwlad i fod yn feirniaid, megis y Parchn. John Roberts (Ieuan Gwyllt),