Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gŵr ieuanc o Langynhafal wedi ei lyngcu i fynu gan ysbryd barddoni, ac enynodd yr un ysbryd yn ei gydweithwyr, ac yn neb yn fwy na Daniel Owen, a daethant yn gyfeillion mynwesol. Y mae yn wir fod Daniel Owen wedi arfer rhigymu ychydig cyn hyny. Yr oedd yn ddiau wedi etifeddu y duedd hon oddi wrth ei fam, yr hon oedd wedi trysori cymaint o farddoniaeth ei châr Twm o'r Nant ar ei chôf, a darnau o ba un a adroddai yng nghlyw ei phlant; eto i'w gyfaill o Ddyffryn Clwyd yr oedd ein gwrthddrych yn ddyledus am hyfforddiant yn rheolau barddoniaeth. Dyma fel y cyfeiria Daniel Owen at y cyfnod hwn,— "Dygodd hyn elfen newydd i'r bwrdd, a bu o ddiddanwch mawr, a chreodd ynof hoffter at farddoniaeth, a pharodd i mi golli ambell noswaith o gysgu i geisio prydyddu."

Ychydig flynyddoedd cyn hyn, yr oedd yna gyfarfod cystadleuol wedi ei sefydlu yn yr Wyddgrug, un o'r rhai cyntaf yng Nghymru. Cafodd y cyfarfod hwn ei sefydlu gan y Parch. Roger Edwards (yr hwn a weithredai fel beirniad am flynyddoedd). Gwnaed hyn yn bennaf ar gais dau neu dri o wŷr ieuainc yn y dref, sef y diweddar Mr Edward Griffith — yr hwn a fu