Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arian' yn Rugby a lleoedd eraill, y mae rhywbeth i'w ennill mewn lle fel yr hen 'shop,' sydd yn gwastattu breintiau'r uchel a'r isel'" Er nas gellid dweyd i Daniel Owen ragori fel diwinydd — canys prin y gellir dweud fod ganddo chwaeth arbenig yn y cyfeiriad hwn — eto y mae yn sicr, fel y dywed ei gyfaill, fod yr hyn a glywodd yn y dadleuon hyn wedi deffro a symbylu ei feddwl, ac ni chymerodd cyfnewidiad le mewn un modd yn y golygiadau y gwreiddiwyd ef ynddynt yn y blynyddoedd hyn.

Daeth yna ŵr o Ruddlan i weithio ar y bwrdd — yr hwn oedd yn cymmeryd dyddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth — ac fel yr oedd y dadleuon duwinyddol yn oeri yn eu gwres, cymmerai materion gwleidyddol eu lle. Arferai y gŵr o Ruddlan dderbyn yr Amserau, newyddiadur a greodd gyfnod newydd yn hanes gwleidyddol Cymru. Darllenid pob gair o hanes gweithrediadau y Parliament, a chymerid dyddordeb dwfn yn llythyrau yr "Hen Ffarmwr," ac yn y ddadl fawr ar ryfel rhwng "Meddyliwr" a "Phreswylydd Bryniau Cribog Cymru." I'r lle hwn y daeth gŵr ieuanc o Ddyffryn Clwyd, a adwaenir heddiw fel y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D. Yr oedd y