Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw waith Charnock ar y Priodoliaethau Dwyfol. (Dygid cyfieithiad Cymraeg y Parch. Owen Jones — o Landudno ar ol hyn — o'r gwaith hwn allan yn yr Wyddgrug, gan Mr Hugh Jones, argraphydd), ac arhosais i fynu un noswaith ymron hyd doriad y dydd i ddarllen y bennod ar y pwnc am Arfaeth Duw, ac aethym i'r gweithdy drannoeth wedi ymwisgo goreu y medrwn yn arfogaeth y diwinydd cryf hwnw. Gosodwyd y ddadl ar safle uwch, ac amddiffynnid y golygiadau Calfinaidd â rhesymau newyddion — rhesymau nad oedd neb yn y gweithdy wedi eu clywed o'r blaen, na dychmygu am danynt. Teimlai pawb fod Arminiaeth, fel y cynrychiolid hi yno, yn cael y gwaethaf, ac yn gorfod tewi a myn'd yn fud. Nid oedd neb yn llawenhau yn fwy yng ngoruchafiaeth Calfiniaeth, nac yn edmygu ei hamddiffynnydd yn fwy na Daniel Owen; ond ni wyddai efe ar y pryd nad oeddwn i yn ddim ond genau trwsgl i Stephen Charnock. Synwn i ddim na fu'r dadleuon brwd hynny yn dipyn o help i'n clymu wrth ein gilydd mewn cyfeillgarwch, ac i dynu allan ac awchu rhywfaint ar ein meddyliau. Nid oes arnom gywilydd o'r hen 'shop,' yn hytrach yr ydym yn diolch am dani. Beth bynnag a ennillir gan fechgyn 'y llwyau