Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynof ryw gymaint o feddylgarwch." Yr oedd yr ysbryd dadleuol yn fyw iawn yn ystod y blynyddoedd cyntaf o'r cyfnod hwn, a diamheu fod y teimlad hwn lawn mor gryf, os nad mwy felly, yn Sir Fflint nag odid fan yng Nghymru. Yr oedd tri o'r gweithwyr yn Wesleyaid, ac yn amddiffynwyr pybyr i'r syniadau Arminaidd (un ohonynt yn bregethwr cynnorthwyol, ni gredwn), a thri ohonynt yn Galfiniaid. Yr oedd y dadleuon ynghylch bedydd yn cynhyrfu cryn lawer ar feddwl y wlad y pryd hwnw; a llawer dadl frwd a gymmerodd le ar y bwrdd ar y pynciau dadleuol. Ac er na chymmerai y llanc ran flaenllaw yn y dadleuon, eto "cymmerai i mewn" yr hyn a ddywedid. Deffrowyd ei feddwl, a daeth i wybod am y teimladau cryfion a goleddid gan wahanol bleidiau, er nad oedd ef ei hun yn meddu tuedd na gallu arbenig at ddadleuaeth.

Adrodda un o'r gweithwyr ddaeth ar ol hyny yn adnabyddus iawn fel llenor a phregethwr, hanes un o'r dadleuon a gymmerodd le yn y shop, ag sydd yn enghraifft o lawer. Dodwn yr hanes i lawr yng ngeiriau ein hadroddydd,— "Unwaith yr oedd Arfaeth Duw wedi bod yn destun dadl — y ddadl wedi parhau yn gyndyn am rai dyddiau — digwyddodd i mi gael i'm llaw y pryd