Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Un cadarn yn ei ffydd oedd o,
Hen Galfin at y gwraidd;
Yn wir, fe gloddiai ambell dro
Yn îs na hynny braidd.

"Y Gwir Barchedig Angell James,
Er cymaint oedd ei fri,
Ni fyddai berffaith yn y nef
Heb gwmni'n Angell ni.

"Ar alwad yr Archangel mawr,
A'i floedd ar foreu brawd,
Yn Angell byw fe gwyd o'r bedd
Ar wedd ei hynaf Frawd."


Yr ydym wedi dyfynnu darnau lled helaeth o'r farwnad uchod, nid yn unig am ei bod yn ddesgrifiad byw o un a roddodd gyfeiriad i fywyd ein gwrthrych, ond un hefyd a awgrymodd i'r awdur liaws o nodweddion yn ei bortread o Abel Hughes. Ar ôl gorphen ei brentisiaeth, cawn Daniel Owen yn gweithio dan gyflog i'w hen feistr Angell Jones, sef o'r adeg pan yr ydoedd yn 18eg oed hyd nes oedd yn 28ain oed, pan adawodd yr Wyddgrug am Athrofa'r Bala.

Dyma fel y cyfeiria efe ei hun at y blynyddoedd hyn yn y braslinelliad y cyfeiriwyd ato eisoes, — "Gweithiai ar y bwrdd gyda'r hen Angell hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu yn fath o goleg i mi. Deffrodd