Ah! Wilson,[1] ai fan hyn mae'th isel fedd
Diaddurnedig yw, a hagr ei wedd;
Heb ôl celfyddyd mewn cywrainwaith cain
Yn codi colofn it' o'r mynor glain,
Ai am nad ydwyt deilwng o'r fath fri
Y darfu'th genedl ymddwyn atat ti
Fel hyn? O! na, yr wyt yn deilwng iawn
O bob rhyw fri a pharch a chofiant llawn.
Fy ngwlad! fy ngwlad! pa fodd y gwnaethost hyn
Ag un o'th feibion enwog? 'rwyf yn syn!
Yn dy wladgarwch nac ymffrostia mwy
Rhag peri gofid im', ac agor clwy'
Fy mron wrth gofio'th Wilson sydd yn awr
Er dy dragwyddol warth, mor wael ei wawr.
Ond er pob amarch gefaist, Wilson gu,
Yr wyt yn ddistaw yn dy feddrod du:
Un gair anhawddgar chwaith ni roddi im',
Ond perffaith ddistaw wyt heb rwgnach dim.
Yn iach it, Wilson, hûn mewn tawel hedd,
Ac wrth i'm fyn'd, rhof ddeigryn ar dy fedd.
Allan o'r Methodist, Mai, 1856.
Y mae yn teilyngu sylw fod Nofelydd cyntaf Cymru wedi arfer ei ddychymyg ar y cyntaf mewn barddoni, megis y gwnaeth prif Nofelydd Scotland; a diau pe wedi cyfyngu ei hun at farddoniaeth, y buasai yn cyraedd safle anrhydeddus ymhlith Beirdd Cymru. Nid oedd
- ↑ Y Wilson y cyfeirir ato yw'r arlunydd enwog John Wilson, B.A., yr hwn a fu farw yn y Golomendy, gerllaw yr Wyddgrug, a'r hwn a gladdwyd yn fynwent y dref.