ef, pa fodd bynnag, yn cyfyngu ei hun yn hollol at farddoniaeth, hyd yn oed y cyfnod hwnw ar ei fywyd, byddai yn ymgeisio ar gyfieithu ac arall-eirio yng nghyfarfodydd y Nadolig. Fel hyn daeth yn feistr ar ysgrifenu Cymraeg; ac y mae yn ffaith ei fod yn rhagori ar ei gyd-efrydwyr mewn ysgrifennu traethodau pan yn efrydydd yn Athrofa'r Bala.
Cyhoeddid papur newydd, neu gyfnodolyn pythefnosol, yr hwn a elwid Charles o'r Bala dan olygiaeth ei gyfaill, Nathaniel Cynhafal Jones. Ymddangosai cyfieithiad o waith Daniel Owen o nofel Americanaidd, Ten nights in a bar, yn y cyfnodolyn hwn, yr hyn a dynai sylw mawr yn y dref. Yn y blynyddoedd hyn hefyd dechreuodd ysgrifennu disgrifiad o hen gymeriadau hynod yn y dref i gyhoeddiad yn y Deheudir. Y mae amryw o'r ystraeion hyn wedi eu hail—argraphu yn y llyfr a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth, dan yr enw o Straeon y Pentan. Byddai yn arfer gohebu hefyd y pryd hwn i rai papurau Cymreig a Seisnig. Efallai ei fod yntau yn y cyfnod cynnar hwn wedi gwybod rhywbeth am deimladau plentynnaidd John Aelod Jones, y rhai a ddarlunia mor ddoniol yn y Dreflan.