Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ni chyfyngodd ei hun yn unig i lenyddiaeth, dysgodd elfennau cerddoriaeth yn lled dda. Er na ddarfu erioed gystadlu ar ganu yng nghyfarfodydd y Nadolig, eto cymmerai ei le ymysg y cantorion. Yr oedd yn aelod o'r côr, a chymerai ei le yn y sêt ganu. Bu yn dechrau canu yn y cyfarfodydd gweddi a'r seiat. Ystyrid fod ganddo lais tenor mwyn, a gwnelai y gwasanaeth hwn mewn modd diymhongar a chwaethus hyd nes y torrodd ei iechyd i lawr. Yr oedd yna hefyd gymdeithas ddadleuol wedi ei sefydlu yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug er pan oedd Daniel Owen yn lled ieuanc. Yr oedd y gymdeithas hon yn lled gref 45 o flynyddoedd yn ol. Cyfarfyddai nifer o wŷr ieuainc llengar yn y gymdeithas hon, a dadleuid lliaws o bynciau duwinyddol. Un o brif ysgogwyr y gymdeithas hon ydoedd y diweddar Mr Edward Griffith y cyfeiriwyd ato eisoes; gŵr o feddwl cadarn a gafaelgar, ac yn meddu dawn arbennig mewn ymresymu a dadleu; ac yn eu mysg hefyd ceid amryw o wŷr ieuainc daeth i lenwi cylchoedd amlwg, megis y Parch. Robert Davies, Amwythig, a Mr. Peter Roberts, yr hwn a ystyrir yn un o'r siaradwyr mwyaf llithrig a hyawdl o fewn corph y Methodistiaid,