Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a rhai brodyr sydd heddiw yn fyw yn yr Wyddgrug, ar y rhai y mae yn hawdd canfod ôl y ddisgyblaeth yr aethant drwyddi yn y cyfarfodydd hyn. Er fod Daniel Owen yn bresennol, eto yr oedd yn rhy ieuanc i gymmeryd rhan flaenllaw yn y dadleuon, ac nid oedd ynddo duedd gref at byncian duwinyddol unrhyw amser, fel y sylwyd eisoes, ac yr oedd ei wyleidd-dra naturiol yn peri iddo ymgadw i fesur o'r golwg.

Wedi i'r gymdeithas uchod farw, codwyd un arall yn ei lle oddeutu y flwyddyn 1861. Cynhelid y cyfarfodydd ar nos Sabboth. Yn y cyfarfodydd hyn darllenid papurau ar wahanol faterion, a dilynid hyn gan rydd-ymddiddan, yr hyn a arweiniai ar adegau i ddadleuaeth frwd. Bryd arall rhoddid ar bob un i ddwyn darnau detholedig o farddoniaeth neu ryddiaith i'r cyfarfod. Edrychid ar ddetholiad y darn, ynghyd â'r adroddiad o hono, fel prawf o chwaeth a dawn yr aelodau. Un o aelodau y gymdeithas hon ydoedd y gŵr a adwaenir heddyw fel y Parch. Ellis Edwards, M.A., athraw Moeseg yn Athrofa Dduwinyddol y Bala. Yr oedd ef yn fachgenyn lled ieuanc y pryd hwn, a rhoddwyd arno ef, ynghyd âg amryw o frodyr ieuainc eraill, i ddarllen papur ar y "pedwar peth