Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bychan" a nodir gan Solomon yn Llyfr y Diarhebion, a threuliwyd cyfarfod difyr yn gwrando arnynt yn darllen eu cyfansoddiadau — y tro cyntaf erioed i'r pedwar, yn ol pob tebyg, gymmeryd rhan gyhoeddus ynddi. Yn yr ail gymdeithas hon, fel y gellir ei galw, cymmerai Daniel Owen ran flaenllaw. Oddeutu yr un adeg, ac ef allai fel math o efelychiad i'r gymdeithas uchod, cychwynnwyd un anenwadol Seisnig yn y dref. Materion gwleidyddol a gwyddonol a ymdrinid â hwy yn benaf yn y gymdeithas hon, ac o herwydd fod yr iaith Seisnig yn cael ei defnyddio, cauid allan y rhan fwyaf o'r bechgyn Cymreig, ond cawn fod Daniel Owen wedi ymuno â hon hefyd, ac yn cymmeryd rhan yn ei gweithrediadau. Yn nghyfarfod diwedd y tymor adroddodd A Natural Bridge, dernyn cywrain o eiddo y gof dysgedig Elihu Burritt. Dengys hyn mor awyddus ydoedd, er gwaethaf ei amddifadrwydd o'r hyn a eilw Wil Bryan yn cheek, i gymmeryd mantais ar bob cyfleustra i ddiwyllio ei hun.

Yn dechrau pregethu.

Arferai Daniel Owen fynychu Ysgol Sabbothol a gedwid mewn tŷ annedd yn Rhydygoleu,