Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ba un y tyfodd eglwys bresennol Maesydre. Yr oedd yr ysgol hon dan ofal y fam eglwys yn yr Wyddgrug. Yr oedd Daniel Owen oddeutu 19eg oed pan y daeth yn aelod o Ysgol Sabbothol y dref. Nid oedd eto wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod, er ei fod wedi ei ddwyn i fyny yn seiat y plant. Er bod ei fuchedd yn gwbl ddiargyhoedd, ac mai pobl y capel oedd ei gyfeillion, ac ym mhethau y capel y cymmerai ddyddordeb. Ac er iddo gael ei gymell yn fynych i ddod yn gyflawn aelod, ni chymerodd y cam hwn hyd y flwyddyn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Yn ol a glywsom, ni welwyd golygfeydd mor gyffrous yn yr Wyddgrug, ac mewn rhai rhannau o Gymru, eto adeg hyfryd iawn ydoedd y tymor hwn. Ymunodd llawer â chrefydd, ac yn eu plith Daniel Owen, yn ŵr ieuanc 23ain oed. Yn y flwyddyn 1864 dygwyd ei achos gerbron yr eglwys fel ymgeisydd am y Weinidogaeth. Cynnyrchodd y cais beth syndod ymhlith yr aelodau, o herwydd hyd yr adeg hon nid oedd Daniel Owen wedi cymmeryd unrhyw ran ym moddion cyhoeddus y capel. Er hynny yr oedd wedi profi ei hun yn ŵr ieuanc o allu diamheuol yn y cymdeithasau dadleuol, ac yng nghyfarfodydd llenyddol y dref. Diau fod y