Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyleidd-dra naturiol, oedd yn elfen mor amlwg ynddo, wedi peri iddo fod yn ymarhous i gymmeryd rhan gyhoeddus yn y gwasanaeth. Y mae efe ei hun wedi dwyn tystiolaeth mai ildio i gymhelliadau taer ei gyfeillion a barodd iddo ddechrau pregethu, at lenyddiaeth yr oedd gogwydd cryf ei feddwl ef o'r cychwyn, eto, gallwn fod yn sicr fod y cyfeillion a'u hannogodd i ymaflyd yng ngwaith y Weinidogaeth yn gweled ynddo gymhwysderau arbennig, onide ni buasent byth yn ei wthio i gymmeryd y cam hwn. Oddiwrth yr hyn a ysgrifenodd ei hun, ac wrth alw i'n côf ei gyfeiriadau at y cam hwn, credwn na argyhoeddwyd ef ei hun erioed ei fod wedi ei alw i'r gwaith o bregethu, ac efallai nas gellir dweyd iddo un amser gael ei feddiannu gan ysbryd pregethu.

Ar ol i'r achos gael ei osod o flaen yr eglwys, cafodd ganiatâd i fyned ymlaen. . . . Yn y tŷ a nnedd yn Pownall's Row, Maesydrê, lle y cynhelid yr Ysgol Sabbothol, y pregethodd ei bregeth gyntaf, a hyny ar noson waith; ac er nad oedd ond ystafell fechan, a'r gynnulleidfa yn cyfatteb i'r lle, eto lled anhwylus fu arno, y fath oedd ei ddiffyg hunan-feddiant, fel y gorfu iddo fyned i'w logell, a dwyn allan yr hyn oedd