wedi ei baratoi mewn ysgrifen. Yn fuan ar ol hyn, pa fodd bynnag, pregethai yn y dref, a'r tro hwn llwyddodd i fyned drwy ei waith yn ddi-brofedigaeth; yn wir, er boddlonrwydd cyffredinol. Ei destun ydoedd Galatiaid vi. 7, "Na thwyller chwi: ni watworir Duw; canys beth bynnag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe."
Dyma y desgrifiad a gawsom o'r bregeth gan un oedd yn ei gwrando,— "Yr oedd yn bregeth feddylgar, wedi ei chyfansoddi yn fanwl, ac mewn iaith ystwyth a phrydferth: yr oedd mîn a bachau ynddi, a chyfeiriad ymarferol i'r holl sylwadau; y traddodiad yn weddaidd a naturiol, a gwelid yn ei bregeth gyntaf yn y capel y nodweddion a'i hynodai mewn blynyddoedd dilynol" Hamddenol, meddir, ydoedd ei ddull o draddodi — nid oedd yn canu nac yn dyrchafu ei lef — er na fyddai yn dibrisio y rhai a allent wneud hyny yn effeithiol. Yr oedd ei bregeth yn gyffelyb i'w arddull lenyddol, yn hynod o syml ac i'r pwynt. Nid oedd yn curo o amgylch y twmpathau, dywedai yr hyn oedd ganddo yn glir a hynod ddigwmpas. Teimlid wrth ei wrando ei fod yn siarad wrth ei gynulleidfa. Nid siarad am y gwirionedd, ond ei draethu wrth ei wrandawyr. O herwydd hyn, er nas