Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellid dweyd ei fod yn bregethwr poblogaidd, eto yr oedd yn ennill sylw ei wrandawyr yn gyffredinol. Yr oedd yn bregethwr "dyddorol iawn," meddai un chwaer o'r dref hon wrthym. Anfynych y clywyd ef yn pregethu ar bynciau athrawiaethol, ac ni roddai lawer o le i esboniadaeth. Desgrifio ac elfennu cymeriadau ydoedd y duedd amlycaf yn ei bregethu, fel y gwelir yn ei Offrymau Neilltuaeth. Ymhoffai mewn desgrifio cymmeriadau am y rhai na ddywedir ond ychydig iawn yn y Beibl ei hun. Yn wir, oddi wrth y cyfeiriadau lleiaf tynai ddarlun cyflawn o honynt, a nyddai o'i ddychymmyg ei hun hanes bywyd aml un, er enghraipht, y gŵr a ddymunai yn gyntaf gael myned a chladdu ei dad cyn dilyn yr Iesu, a diau ei fod yn fynych yn cael ei gario ymaith gan ei ddychymmyg, fel y gellir dweyd am un o bregethwyr enwogaf Scotland, sydd yn dra hoff o ymdrin â chymmeriadau Beiblaidd. Yr oedd ei wedd a thôn ei lais yn ddwys a difrifol, ac ni roddai ffordd i'r humour ddaeth i'r golwg yn ei ysgrifau. Y mae y pregethau a gyhoeddodd yn nghyfnod ei waeledd yn gosod allan yn lled glir i'r darllenydd ei nodweddion arbenig fel pregethwr. Yr oedd y dull hwn yn llai cyffredin y pryd