Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw, yn enwedig ym mysg y Methodistiaid nag ydyw heddyw, ac nid pawb oedd yn mwynhau yr elfeniad clir a threiddiol o gymmeriadau a geid ym mhregethau Daniel Owen, eto pan gyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa, ennillasant sylw a chymmeradwyaeth uchel.

Yn haf 1865 aeth i mewn i Athrofa y Bala, ac arhosodd yn y Coleg hyd ddiwedd y flwyddyn 1867. Hyfryd yw dwyn tystiolaeth i garedigrwydd cyfeillion yr Wyddgrug tuag ato yr adeg hon. Yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, ac yn wir, oddiwrth yr hyn a glywsom gan eraill, ni wnaeth gynnydd mawr yn ei efrydiau yn y Coleg. Yr ydoedd eisoes yn 29 oed, ac er ei fod yn lled gyfarwydd â'r iaith Saesneg, eto, nid oedd wedi cael nemor baratoad yn elfenau dysgeidiaeth, ac yr oedd erbyn hyn wedi cael blas ar ddarllen llenyddiaeth Seisnig, ac ar ol myned i'r Bala, cafodd gyfleusdra i ymroddi i ddarllen. Nis gellir dweyd iddo erioed ddysgu efrydu yn ystyr fanwl y gair, a dywed un oedd yn y Bala yr un amser ag ef, ac un a gafodd gyfleusterau arbenig i'w adwaen mewn blynyddoedd diweddarach, fod yn amheus a fuasai yn manteisio llawer pe yn cyfyngu ei hun i'r efrydiau arferol. Eto i gyd, safodd yn