lled uchel yn arholiad y Coleg mewn rhai pynciau. Yr oedd yn sefyll rywle yn y canol ar y rhestr mewn materion duwinyddol. Esgeulusai rai cangennau, megis Meintonaeth yn hollol. Pan y dywedai un o'i gyd-hefrydwyr, "Tyr'd i ddosbarth Algebra, Daniel." "Na," meddai yntau, "nid wyf yn greadur cyfrifol." Efallai mai ofer fuasai ceisio ei rwymo dan ddisgyblaeth arferol y Coleg.
Dyfynwn yr hyn a ddywed un o'i gyd-efrydwyr mwyaf disglaer,— "Efallai mai gwell oedd iddo gymmeryd ei ffordd ei hun. Araf yr oedd ei alluoedd yn aeddfedu, a phe gosodid gorfodaeth arno, diau y gwnelid cam âg ef. Tyfodd ei dalentau i'r hyn oeddynt yn ddistaw ac arafaidd." Naturiol ydyw i ni ofyn, A oedd gan ei athrawon neu ei gyd-efrydwyr unrhyw syniad am y posibilrwydd iddo enwogi ei hun mewn bywyd? Ateb nacaol a gawsom i'r cwestiwn hwn. Er mor graff ydoedd Dr Edwards, y mae'n hollol sicr na ddychymmygodd ef, mwy na chyd-efrydwyr Daniel Owen, y byddai ei enw yn un o'r rhai mwyaf hysbys yn llenyddiaeth ei wlad cyn diwedd y ganrif; a'i fod yn un o'r ychydig efrydwyr y ceid model cerflun o hono o fewn muriau y Coleg. Nid yw hyn i ryfeddu ato.