Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd yna argoelion o'i allu i'w ganfod yn ei waith yn yr Athrofa, ac yr oedd y llwybr a gymmerodd yn un hollol newydd. D'od o hyd i'w ddawn a ddarfu ymhen blynyddoedd diweddarach. Dodwn yma sylwadau y Parch. Richard Evans, Harlech am dano, yn nghartref yr hwn y lletyai yn ystod ei arhosiad yn Athrofa y Bala:—

"Gallaf finnau ddweud am dano fel ag y dywed pawb yr wyf yn credu a ddaeth i gyffyrddiad âg ef, ei fod yn un o'r rhai mwyaf dymunol, yr oedd yn gwmni diddan, ac yn gyfaill ffyddlon ac yn garedig i bawb, ac yn tynu serch pawb tuag ato. Efe, yr wyf yn credu, oedd ffafrddyn y Bala tra y bu yno. Yr oedd y pryd hwnw yn or-hoff o'r digrifol. Os byddai rhywbeth felly wedi cael ei ddweyd neu ei wneyd, neu ryw berson felly yn y cyffiniau, byddai Dan (oblegid dyna fel y gelwid ef gan ei gyd-efrydwyr) yn bur sicr o wybod am dano a chael mwynhad mawr oddiwrtho, ond er mor hoff oedd o'r digrifol, ni welais mohono erioed yn gwneud dim i ymylu ar ddirmygu na gwawdio neb. Na, yr oedd yn fonheddwr yn ei holl ymddygiadau, ac ni fyddai dim y pryd hwnw ag y byddai ef yn ei anghymmeradwyo yn fwy nag ymddygiadau isel-wael. [Gallwn ychwanegu