Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y nodwedd hon yn amlwg ynddo hyd y diwedd]. Nid wyf yn meddwl fod dim o waith y Coleg wedi ennill llawer o serch Mr Daniel Owen, ac nis gallaf ddweyd pa ran o'r gwaith aeth a mwyaf o'i fryd; ond gwn yn dda pa ran aeth a lleiaf, sef Mathematics. Yr wyf yn credu na chawsant ddim o'i serch. Yn wir, yr oedd yn wir gâs ganddo hwynt; ond er y cwbl yr oedd ef yn efrydydd cydwybodol, er nas gellid dweyd ei fod yn un aiddgar iawn. Nis gallasai, er hyny, oddef gwastraffu ei amser. Arferai aros i fynu yn hwyr i ddarllen, ac mewn canlynid nid oedd yn godwr bore, ac felly mewn brys y byddai yn paratoi ei hun i fynd i'w ddosbarth erbyn naw,"

Adeg hapus yn ei fywyd ydoedd y cyfnod hwn. Daeth i gylch hollol newydd, er na ffurfiodd gyfeillgarwch agos ond âg ychydig, eto, edrychid arno gan yr efrydwyr yn gyffredinol fel un diddan, synwyrol, a chraff; yr oedd ar y telerau gorau â phawb, ac meddai ystôr ddiderfyn o hanesynnau yn egluro y "dynol deulu." Yn ei Hiraethgân i'r Parch. John Evans, Croesoswallt — un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol yn ystod ei arhosiad yn y Bala — cawn gyfeiriadau at y cyfnod hwn ar ei fywyd:—