Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eisteddais wrth dy ochr lawer awr
Ar fainc y Coleg ddyddiau hapus gynt,
Pan oedd hoenusrwydd ysbryd yn rhoi gwawr
Ar ein breuddwydion — aethant gyda'r gwynt;
Pa le mae'r bechgyn oeddynt o gylch y bwrdd,
Rhai yma, a rhai acw — rhai'n y ne'?
A gawn ni, eto gyda'n gilydd gwrdd
Heb neb ar ol — heb neb yn wâg ei le?

Collgwynfa ydoedd colli'r dyddiau pan
Cyd-rodiem hyd ymylon Tegid hen,
Cyn i'w ramantus gyssegredig làn
Gael ei halogi'n hagr gan y trên;
Er byw yn fain, fel hen geffylau Rice,[1]
Ein calon oedd yn hoew ac yn llon;
Pwy feddyliasai, dywed, ar ein llais
Mor weigion oedd ein pyrsau'r adeg hon?

Yn gadael Coleg y Bala.

Fel y sylwyd uchod, gadawodd Daniel Owen y Bala ymhen dwy flynedd a hanner, sef yn ystod gwyliau y Nadolig, 1867. Yr oedd ei ymadawiad yn sydyn ac annisgwyliadwy iddo ef ei hun, yn ogystal ag i athrawon y Coleg. Y mae tegwch ai goffadwriaeth yn galw am i ni egluro yr amgylchiadau a barodd iddo gymmeryd y cam hwn. Yr ydym eisoes

  1. Mr. Rice Edwards, gan yr hwn y llogid ceffylau gan yr efrydwyr i fyned i'w teithiau.