Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryw o'r prif nofelwyr yn cael eu darllen yn uchel yn y gweithdy. Yn wir, yr oedd yn fath o gymdeithas darllen; a dywed un oedd yn bresennol fod yr oll o nofelau Syr Walter Scott wedi eu darllen yn y modd yma (yr hyn sydd ynddo ei hun, yn ôl un beirniad lled enwog, yn liberal education); yr oll o weithiau Charles Dickens; amryw o nofelau Thackeray a George Eliot. Derbynnid y Daily News bob dydd i'r gweithdy, a darllenwyd pob gair o hanes Prawf Tichborne ganddynt. Y mae yn sicr fod Daniel Owen yn darllen llawer ar ei ben ei hun. Derbyniai y Traethodydd, a chynhaliai ddosbarth darllen ar nos Fawrth yn y capel ag oedd yn gofyn am baratoad lled fanwl gogyfer âg ef. Yn wir, yr oedd ar hyd ei oes yn ddarllenwr mawr mewn rhai cyfeiriadau, ac yn ddarllenwr hynod o gyflym. Y mae yn amheus gennym a oedd yna yng Nghymru, tuallan i swyddfeydd y Wasg, ddarllenwr eangach ar newyddiaduron. Derbyniai a darllenai braidd yr oll o'r newyddiaduron Cymreig a gyhoeddid.

Teimlai er's amser anesmwythid gyda golwg ar ei amgylchiadau. Prin yr oedd yr hyn a enillai yn ddigon iddo allu cadw ei gartre. Ac nid oedd yn teimlo addfedrwydd i ymgyflwyno