yn hollol i waith y Weinidogaeth, er iddo unwaith gael gwahoddiad i fyned yn weinidog ar eglwys lled gref yn Sir Feirionydd. Penderfynodd gychwyn masnach ei hun fel Tailor and Draper, mewn cysylltiad â gŵr ieuanc arall. Gwenodd Rhagluniaeth arno, ac ymhen ychydig daeth i amgylchiadau cysurus, yr hyn oedd yn brofiad newydd iddo. Ond ym Mawrth, 1876, torrodd ei iechyd i lawr. Tra yn symud rhôl o frethyn yn y Shop torrodd gwaedlestr iddo, a chollodd lawer o waed; ofnid am ei einioes am amser maith; offrymwyd gweddïau taerion ar ei ran yn eglwys yr Wyddgrug; a chlywsom ef yn cyfeirio gyda dwysder at yr adeg hon yn ei gystudd diweddaf. Ac er i'w einioes gael ei harbed, eto gwanhaodd ei nerth yn fawr, crymodd ei wàr, ac aeth i wisgo gwedd hynafgwr cyn ei fod yn llawn deugain mlwydd oed. Wele y cyfeiriad a wneir at yr afiechyd hwn gan Daniel Owen yn y bras-linelliad o'i fywyd:-
"Ym Mawrth, 1876, torrais blood-vessel yn yr ysgyfaint dair gwaith mewn ystod pythefnos. Ni feddyliodd neb y buaswn yn byw, a bûm yn dihoeni am flynyddau. Bu Dr. Edwards (mab y Parch. Roger Edwards) a Dr. John Roberts, Caer, yn hynod ofalus o honof y pryd hwnnw."