Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yn unig yr oedd ei nerth wedi amharu fel nad allai gymmeryd gofal o'i fasnach, ond yr oedd yr afiechyd wedi effeithio yn ddwys ar ei nervous system. Ymhen rhai misoedd ar ol hyny yr oedd y Parch. Edward Mathews yn pregethu yn yr Wyddgrug, a themtiwyd ef i fyned i wrando arno yn yr hwyr. Ar gymhelliad taer ei gyfeillion aeth i eistedd i'r gadair o dan y pulpud yn y sêt fawr, gan wynebu felly y gynnulleidfa. Bu hyn yn ormod iddo ddal. Gorfu iddo gilio a myned allan ymhen ychydig fynydau; a byth er hyny bu arno ofn cynnulleidfa fawr. Arosai i wrando yn y Vestry am amser maith ar ol hyn; ac ymhen blynyddoedd diweddarach eisteddai yn agos i'r drws. Yn fisoedd yr haf dilynol aeth i Bangor-is-y-coed, ger Gwrecsam, i aros gyda Mr. W. R. Evans, yn awr Clerk of the Peace, swydd Ddinbych. Bu y cyfnewidiad hwn, ynghyd â'r gofal tyner a gymmerid o hono gan Mrs. Evans, yn foddion i adfer ei iechyd i raddau helaeth. Yr oedd yn byw mewn ofn parhaus rhag i waed-lestr dorri yn ei ysgyfaint, a llethid ef ar amserau gan y teimladau hyn. Yn ystod ei arosiad yn Bangor-is-y-coed daeth i gyfarfyddiad â'i hen athraw, Dr. Edwards, yr hwn y pryd hwnnw a ddaeth i ddeall