Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rheswm paham y gadawodd y Bala; arweiniodd hyn y Doctor i gymmeryd dyddordeb adnewyddol yn ei hen efrydydd.

Er pob cymhelliad o eiddo cyfeillion yr Wyddgrug, methwyd a chael ganddo i gymmeryd ei le fel cynt. Methwyd a chael ganddo, er pob perswad, i afael yng ngwaith y Weinidogaeth mwy. Diau mai un rheswm am hyny ydoedd gwendid ei iechyd, yr hwn oedd wedi effeithio mor fawr ar ei nerth gewynol nes peri fod annerch cynnulleidfa yn ei lethu. Tra y teimlai yn dra chartrefol, yn enwedig yn y rhan ddiweddaf o'i fywyd, mewn cylchoedd bychan, eto arswydai wynebu cynnulleidfa yn Neuadd y Dref, hyd yn oed yn y cymmeriad o gadeirydd cyfarfod y Nadolig. Yn ychwanegol at hyn, y mae ei dystiolaeth ef ei hun yn y bras-llinelliad y dyfynnwyd o hono eisoes, yn profi nad oedd yn argyhoeddedig ei fod wedi ei alw i'r gwaith hwn. Ychydig amser cyn ei farwolaeth yr oeddid yn ymddiddan â dau ŵr ieuanc fwriadant fyned i'r Weinidogaeth yn y dref hon, a gofynwyd iddo ef ddweyd gair wrthynt, yr hyn a wnaeth gyda dwysder nad anghofier ef gan neb oedd yn bresennol. "Byddwch yn sicr," meddai, "eich bod yn eich lle, os teimlwch eich bod wedi eich galw i'r gwaith o bregethu