Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddwch yn y sefyllfa fwyaf dedwydd ar wyneb y ddaear. O'r ochr arall, os na theimlwch yr argyhoeddiad o hyn yn eich mynwesau eich hunain, byddwch yn y cyflwr mwyaf annedwydd o bawb." Erioed ni chlywsom ef yn siarad gyda y fath ddifrifwch a dwyster. Daeth er hyny yn raddol i ymaflyd mewn gwaith o fewn cylchoedd mwyaf neillduedig yr eglwys. Ymgymerodd a bod yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a gellir dweud ei fod yn athraw tra llwyddiannus. Dosbarth o bobl mewn oed, yn meddu gwybodaeth lled helaeth oedd yn gwneyd i fynu ei ddosbarth. Yr oedd yn un o'r darllenwyr goreu. Clywsom un o'i gyd-efrydwyr mwyaf galluog yn Athrofa y Bala yn dweyd ei fod y darllenwr goreu yn y Coleg. Rhoddai bwys ar ddarllen fel athraw. Disgwyliai i bawb ddarllen gan "osod allan y synwyr." Er bod ei ddosbarth yn cynnwys dynion o wahanol oedran a chyrhaeddiadau, llwyddai i wneyd yn ddyddorol ac addysgiadol i bob un.

Bu yn dra ffyddlon gyda chymdeithas y bobl ieuainc, yr hon a gyfarfyddai nos Sabbath yn y Schoolroom ynglŷn â'r capel. Bu llyfr y Proffeswr Drummond ar Natural Law in the Spiritual World yn destyn trafodaeth am un tymor. Un noswaith gwelwyd gŵr ieuanc dieithr yn y