gymdeithas hon, ac wrth ei alw i ddweud gair prophwydai yr athraw y byddai yn fuan yn un o wŷr mwyaf adnabyddus ei wlad. Y gŵr ieuanc hwnw ydoedd Mr T. E. Ellis, marwolaeth gynnar yr hwn sydd wedi peri'r fath alar cyffredinol. Cawn hefyd iddo gymmeryd rhan flaenllaw mewn cymdeithas ddadleuol a sefydlwyd yn 1888. Llywyddai'r holl gyfarfodydd gyda deheurwydd amlwg.
Drachefn, pan sefydlwyd canghen lewyrchus o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Wyddgrug, yn 1892, efe a weithredai fel llywydd ac athraw y gymdeithas hyd nes y daliwyd ef gan ei gystudd diweddaf. Yn y cyfarfodydd hyn darllenid rhannau Cymru Fu. Rhannu o weithiau Charles Edwards, Alun, Ceiriog, ac Eben Fardd. Yr oedd yr athro yn Gymro zelog, ac ni chollai y cyfleustra am flynyddoedd i argymhell pobl ieuanc y dref i ddysgu Cymraeg, a llawenhau yn fawr o herwydd y deffroad Cymreig gymmerodd le y blynyddoedd diweddaf. Cydymdeimlai yn fawr â'r ysgol newydd mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig.
Materion Cyhoeddus a Threfol.
Er mai fel llenor yr adwaenir Daniel Owen, eto cymmerai dyddordeb, ac yn wir cymmerodd ran