Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaenllaw yn materion gwleidyddol y sir a'r dref.

Yn nechrau y flwyddyn 1874 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref i gyd-lawenhau am fuddugoliaeth Syr Robert Cunliffe yn yr etholiad cyffredinol oedd newydd derfynu,[1][2] a phan y caed brwydr dair-onglog ym Mwrdeisdrefi Fflint, yr oedd amryw o brif arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn y rhanau hyn o'r wlad yn bresennol, megis Syr George Osborne Morgan, A.S., Mr. Samuel Holland, A.S., Mr. Thomas Gee, ac eraill. Galwyd ar Mr Daniel Owen i anerch y cyfarfod fel cynnrychiolydd y gweithwyr. Nid heb bryder yr edrychai ei gyfeillion arno yn sefyll i fynu mewn lle mor bwysig. Ond aeth drwy ei waith yn dra llwyddiannus. Yr oedd wedi paratoi anerchiad campus, yr hwn a draddodai gyda hunanfeddiant a dylanwad mawr, a'r teimlad cyffredin ydoedd mai efe a wnaeth yr araith orau y noswaith honno, er y gwŷr grymus oedd ar y llwyfan. Testun ei araeth ydoedd "Bonedd a Gwerin ein gwlad." Dangosodd ei ddoethineb arferol yn y dewisiad o'r testyn, ac yn ei ddull yn ymdrin âg ef. Nid aeth i mewn i gwestiynau y dydd, gadawodd y rhai hynny i'r gwŷr mwy cyfarwydd oedd i gymeryd rhan yn y cyfarfod; ond dangosodd

  1. Mae'r wybodaeth yma yn anghywir, colli bu hanes Cunliffe, oherwydd ei fod wedi pechu anghydffurfwyr fel Thomas Gee a Daniel Owen trwy wrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd. Peter Ellis Eyton, Rhyddfrydwr oedd yn gefnogol i ddatgysylltu bu'n fuddugol. Cyfarfod i roi tysteb i Cunliffe, fel diolch am ei wasanaeth ac i geisio ail uno'r blaid rhwygedig oedd y cyfarfod yn yr Wyddgrug ar ôl yr etholiad
  2. TYSTEB I SYR ROBERT CUNLIFFE - Baner ac Amserau Cymru 1874 adalwyd 21 Rhagfyr 2021