Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

berthynas dibyniad y gwahanol ddosbarthiadau ar eu gilydd, a'u rhwymedigaeth tuag at eu gilydd, mewn dull clir a chartrefol, gan wneyd defnydd o'i arabedd a'i ysmaldod chwareus. Teimlodd pawb fod yna ryw elfenau arbenig yn y gŵr ieuanc diymhongar oedd wedi ei fagu yn eu plith. Cymmerai dyddordeb arbenig yn yr etholiadau canlynol, ac er na cheisiodd anerch cynulleidfa yn gyhoeddus, eto gweithiai ei ran gyda'i blaid. Cododd o'i wely ychydig fisoedd cyn ei farw i bleidleisio dros Mr. J. Herbert Lewis. Yr oedd yn Rhyddfrydwr, ac yn Ymneillduwr cryf. Nid oedd ei chwaeth lenyddol wedi oeri na gwanhau dim ar ei zel Rhyddfrydol nac Ymneilltuol. Gellir dweyd am dano yntau fel y canwyd am ei hen feistr, Angell Jones,—

Yr oedd yn bur i'r bôn i'w blaid.

Yr oedd ynddo gydymdeimlad dwfn â'r teimlad Cymreig o'r cychwyn. Ynglŷn â bywyd trefol, yr oedd wedi ei ddewis er's rhai blynyddoedd yn aelod o'r Bwrdd Lleol, a phan newidiwyd y bwrdd hwn i fod yn Gynghor Dinesig, dychwelwyd ef yn anrhydeddus. Yr oedd ei anerchiad at yr etholwyr yn un o'r pethau mwyaf ffel a ymddangosodd yn yr etholiad. Llwyddodd i