Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

osod allan deimladau Thomas Bartley mewn ffurf chwaethus a llenyddol. Anrhydeddodd y Cynghor Dinesig ei hun drwy ei ddewis i fod ei gadeirydd cyntaf, ac yn rhinwedd y penodiad hwn gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Ychydig o weithiau y gallodd eistedd ar y faingc. Cyflawnai ei waith fel Cadeirydd gyda deheurwydd a natur dda. Er nad oedd yn meddu gwybodaeth fanwl, nac hwyrach yn meddu llawer o flas ar fanion, eto yr oedd ei synnwyr cryf, a'i ysmaldod diniwed yn llawer o gymhorth iddo yn ei swydd. Os nad oedd yn deall yn drwyadl bob mater a ddeuai ger ei fron, gellid bod yn sicr ei fod yn deall ysbryd a nodweddion ei gyd-aelodau yn drwyadl.

Yn ystod y flwyddyn y bu yn ei swydd, sef 1895, dioddefai lliaws o dlodion y dref oddiwrth galedi. Cymmerwyd y mater i fynu gan y Cynghor Dinesig, a phenderfynasant ofyn am gydweithrediad holl eglwysi y dref — yn Eglwyswyr, Ymneillduwyr, a Phabyddion. Cafwyd cynrychiolaeth gyflawn o'r holl eglwysi, a gwnaed trefniadau i gasglu tuag at ddarparu lluniaeth i blant tlodion y dref — llawer o ba rai a ofnid oedd mewn eisiau. Llywyddid y pwyllgor a benodwyd i ofalu am hyn gan Mr. Daniel Owen, fel cadeirydd