Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Cynghor Dinesig. Trwy ei fedr a'i natur dda yn benaf llwyddwyd i gael cydweithrediad hollol, a daeth cynrychiolwyr y gwahanol eglwysi i adnabod eu gilydd yn well. Profodd ei adnabyddiaeth drylwyr o'r dref a'i thrigolion, gwyddai am enw, ïe, llysenw y cymmeriadau y gwneid ymholiad yn eu cylch, a bu hyn, ynghyd â'i fedrusrwydd i roddi olew ar olwynion y peirianwaith, yn fantais arbenig yn y cyfwng hwn.

    1. hwn ##
    2. far ##

Ei Gystudd a'i Farwolaeth

Yr oedd yn amlwg fod ei iechyd yn gwanhau ers dros flwyddyn; ond rywfodd, nid oedd hyn yn peri pryder i'w gyfeillion, yr oedd wedi bod i raddau yn wanaidd ei iechyd er's blynyddoedd. Pan ffurfiwyd y Cynghor Dinesig gyntaf, ac y ceisid ganddo fod yn gadeirydd, teimlai yn anhueddol i gydsynio, o herwydd sefyllfa ei iechyd, ond cymmerodd ei berswadio, pa fodd bynnag, i gymmeryd yr anrhydedd a gymhellid arno gan deimlad cyffredinol yr holl dref, a chyflawnodd ei ddyletswyddau newydd gyda yni a bywiogrwydd neillduol; ond dydd Gwener y Groglith cyntaf ar ol hyn, cymmerwyd ef yn glaf, a gorfu iddo ymgadw i'w ystafell; ond o dan ofal ei feddyg ffyddlawn gwellhaodd ddigon