Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i fyned allan. Bu yn y capel ychydig o weithiau, a'r tro diweddaf y bu yno ydoedd Sabboth, Mai y 5ed, pan yr oedd pregeth angladdol yn cael ei thraddodi i unig ferch hen gydymaith ei oes, Mr. Isaac Jones, yr hon oedd yn gymmeriad hynod o ddymunol. Elai hefyd am ychydig oriau yn ystod y dydd i'w fasnachdy yn misoedd yr haf; ond fel yr oedd yr hîn yn oeri, cadwodd yn gwbl i'r tŷ, ac yn ystod y tair wythnos diweddaf, cyfyngwyd ef yn hollol i'w ystafell wely. Codai am ychydig amser yn ei ystafell hyd y diwedd. Dylid dweyd ei fod wedi gwerthu y tŷ a adeiladodd iddo ei hun o dan gysgod Bryn y Beili, bron gyferbyn â'r tŷ bychan lle y ganwyd ac y magwyd ef, ac yn yr hwn hefyd yr ysgrifennodd Rhys Lewis. Bu yn ffodus yn ei lety, - darfu i Mrs. Evans, gyda'r hon y lletyai, a Miss Jones, weini arno gyda gofal a thynerwch mawr. Gwnaed pobpeth a allai caredigrwydd i leddfu ei gystudd. Nid arbedodd ei feddyg, Dr. Edwards, unrhyw ymdrech er ceisio ei wellhau, a galwodd ato y Doctoriaid Trushaw o'r dref hon, a Dobbie a Roberts o Gaerlleon, ond nid oedd dim yn tycio i beri gwellhad. Yn wir, ofnai ef ei hun o'r dechrau nad oedd adferiad iddo; eto, hiraethai am gael gwella.