Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dymunai am gael ymroddi yn fwy i weithio gyda chrefydd. Os ydoedd ei lafur llenyddol, ynghyd â'r temtasiynau a all fod yn gysylltiedig â bywyd felly, wedi myned a'i fryd yn ormodol, yn awr, pa fodd bynnag, pan yr oedd y diwedd yn nesâu sefydlai ei feddwl ar y sylweddau pur. Cafodd gysur arbenig ym Mhryddest Elfed ar "Orsedd Gras," yr hon a ymddangosodd y pryd hwn. Gwelsom ei fod wedi nodi allan rai darnau, a darllenai hwy eilwaith a thrachefn. Wele rai o'r darnau a nodwyd ganddo: -

Gorsedd dirion, Gorsedd anwyl, Gorsedd afradloniaid ffol,
Gorsedd lle disgwylia Cariad am y rhai sy'n d'od yn ol.
Nos na dydd ni ddaw neb yno heb fod croesaw iddo ef—
Nid oes porth na chauir rywbryd ond trugarog borth y nef!
Nid oes cau ar hwn: mae Duw'n rhy hoff o wel'd ei blant i'w gau;
A pho amlaf deuant, mwyaf yw ei ras yn amlhau:
Mae'n caru'r llaw sy'n curo'n fynych, fynych, wrth y drws.
Ac y mae'r fendith, wrth ei chadw'n hir, yn myned yn fwy tlws—
"Briwsion?" — llefai'r wraig o Ganaan, o dan gur ei phryder trwm,
Ond i enaid mor urddasol yr oedd briwsion yn rhy lwm.
Cadwodd Iesu'r briwsion, er i'w chalon dori bron yn ddwy.

"Y pethau mwyaf" a lanwant ei feddwl yr wythnosau hyn; eto, ar amserau, yr ymddangosai yn lled siriol. Dymunai yn fawr am ran