yng ngweddïau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn credu yng ngweddïau'r eglwys. Credai fod yr Arglwydd wedi gwrando ei gweddïau yn flaenorol ar ei ran yn ystod ei gystudd trwm bedair blynedd ar bymtheg yn ôl. Ymsiriolai wrth glywed fod yna weddïau yn cael eu hoffrymu yn barhaus drosto. Ystyriai fod hyn yn rhyw awgrym i " bwy yr oedd yn perthyn." Nos Sadwrn diweddaf y bu fyw, gofynnai i Miss Jones i ddarllen iddo gyfieithiad o emyn hwyrol Lyte, yr hwn a welir yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd : -
"Trig gyda mi, fy Nuw mae'i dydd yn ffoi,
Cysgodau yr hwyr o'm hamgylch sy'n crynhoi;
Diflanna nerth y ddaear hon, a'i bri,
Cynhorthwy’r gwan, O aros gyda mi."
Gofynnodd i'r holl benillion oeddynt mor gyfaddas i'w sefyllfa ef gael eu darllen, a theimlai eu bod yn rhoddi cysur iddo fel yr oedd cysgodau yr hwyr o'i amgylch yn crynhoi. Yr oedd ers dyddiau yn credu fod dechrau'r diwedd wedi dod, a gweddïau am i'r struggle fod yn fyr. Yr oedd ei natur nervous yn brawychu wrth feddwl am yr ymddatodiad, ac er ei fod yn suddo yn gyflym dydd Llun, eto yr oedd yn ymwybodol hyd y diwedd, a gwelid ef a'i