Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddwylaw ymhleth yn fynych yn gweddïo yn floesg am gael gollyngdod buan, ac am 8 o'r gloch fore Mawrth, yr 22ain o Hydref, caniatawyd ei weddi. Bu farw ddau ddiwrnod wedi iddo gyrraedd ei 59 mlwydd oed.

Ei Gladdedigaeth

Pan ddeallwyd fod ei ysbryd wedi ehedeg ymaith, llanwyd yr holl dref a thristwch dwfn. Ac er nad oedd iddo berthnasau yn y dref, eto yr oedd ei farwolaeth yn alar personol i lu o gyfeillion. Anghofid yn llwyr bob diffygion a welwyd ynddo, ac ni chofid ond am y cyfaill hoff, caredig, a diddan, yr hwn ni chaem "weled ei wyneb ef mwy." Cymerodd y claddedigaeth le y dydd Iau canlynol, sef ar y 24ain, yng nghladdfa gyhoeddus yr Wyddgrug. Cyn cychwyn y corff i'r gladdfa, cynhaliwyd gwasanaeth yn addoldy y Methodistiaid yn New Street Ar ôl dechrau drwy ddarllen rhan o'r Gair a gweddïo, ynghyd â chanu emyn, cafwyd anerchiadau byrion gan y Parchn. Ellis Edwards, M.A., Bala, Robert Owen, Tŷ Draw, yr Wyddgrug. Rhoddodd Mr. Edwards amryw o'i atgofion am yr ymadawedig ym mlynyddoedd ei ieuenctid. Dilynwyd ef gan y Parch. Robert Owen, gyda