Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ewyllys y diweddar Daniel Owen.

Y mae cynnwys ei ewyllys yn ddiddorol, ac yn unol â chymeriad y testamentwr.

Penododd ddau gymydog, a chyfeillion iddo, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr un eglwys, yn gymun weinyddwyr, gan roddi £10 i bob un ohonynt, ynghyd ag £20 yn ychwanegol i gael ei rannu yn gyfartal rhwng eu plant Gadawodd £5 yr un i'w weithwyr, ynghyd â phâr o ddillad i bob un ohonynt £10 i'w egwyddorwas, ynghyd â'i oriawr a'r gadwyn aur berthynol iddi. £10 i'w gyfrannu ymhlith tlodion yr eglwys yn New Street. £20 tuag at y Genhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd. £5 i'w lety- wraig, ynghyd A'r gadair yr arferai eistedd ynddi ei ddarluniau ynghyd â'r gist lle y cadwai ei ddillad. £5 hefyd i Miss Jones a weinyddai arno, ynghyd â'r royalty a dderbynnid oddi wrth werthiant Straeon y Pentan am 40 mlynedd. Y gweddill o'i eiddo personol, yr hyn oedd yn ychydig gannoedd, i'w rhannu rhwng ei dair nith.

Cofadail i Daniel Owen.

Yr oedd amryw o newyddiaduron wedi cyfeirio at y dymunoldeb o wneud tysteb i'r ymadawedig ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth.