Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Pan y soniodd ei gyfaill llyfr-bryf am hyn, pan yn edrych am dano ychydig amser cyn ei farwolaeth, dywedai, "Mi fyddai i wedi myn'd, yn ôl pob tebyg, cyn y gwneir hynny," ac felly y bu. Ar ôl ei farwolaeth ceid fod yna deimlad cyffredinol dros roddi amlygiad o edmygedd cenhedlaethol ohono. Ar wahoddiad cyffredinol cyfarfu nifer o wŷr dylanwadol, y rhai oeddynt yn cynrychioli gwahanol ddosbarthiadau, yn Nghaerllion, o dan lywyddiaeth Mr. J. Herbert Lewis, A.S. — yr aelod dros Fwrdeistrefi Fflint — a phenderfynwyd gosod i fyny Gerflun o Daniel Owen mewn lle amlwg yn ei dref enedigol, a derbyniwyd amryw o addewidion tuag at yr amcan hwn yn y fan a'r lle, a thrwy lythyrau o wahanol barthau o Gymru. Dewiswyd Mr. Llywelyn Eaton, yr Wyddgrug, yn ysgrifenydd yn Ngogledd Cymru, a'r Parch. J. A. Jenkins, B. A, Coleg Caerdydd, yn ysgrifenydd yn y Deheudir.

Derbyniwyd cyfraniadau oddi wrth bob dosbarth a phlaid yn ein gwlad, ac erbyn dechrau y flwyddyn hon [1] yr ydym yn deall fod yn agos i £300 wedi eu casglu. Penderfynwyd ar Mr. W. Goscombe John, y cerflunydd Cymreig enwog i wneud y gwaith, a thêg yw cydnabod ei fod yntau wedi ymgymryd a'i wneud yn rhad,

  1. Sef 1899