Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ffordd yna, mai dinistr y llall a amcanai ei ddifyrru a gwneud i ffordd â'i ddiffygion trwy eu chwerthin ymaith, oblegid hyn, Miss Comedy ydoedd y mwyaf poblogaidd o lawer, ac amheuai pa un ai hi ynte ei chwaer ydoedd y ffrind cywiraf i ddyn. Yr ydoedd dyn yn greadur rhesymol, ac am hynny yn un cyfrifol, a da oedd iddo gael ei sobri weithiau. Ai nid oedd cyfarfodydd y Penny Readings yn rhedeg i ormod rhysedd, gan aberthu addysg a phwyll i chwerthiniad heb ddim amcan iddo ond chwerthiniad cildarddach drain dan grochan ? Teimlwn wrth wrandaw fy mod yn myned i le bach iawn, ac ofnwn i neb fy ngweled. Dywedai fod dyn wedi ei eni i'r byd yma i fyw, nid i chware, y cai chware ar y ffordd wrth fynd ymlaen, ond byw oedd amcan ei fywyd; ac wrth fyw i chware yr ydoedd y dyn yn colli amcan ei ddyfodiad i'r byd. Yr un fath gyda mwynhad, nid oedd mwynhad i'w gyrhaeddyd wrth wneud hynny yn amcan bywyd, ond yr oedd i'w gymryd ar y ffordd - i'w gael wrth deithio—wrth i ddyn wneud ei waith, ac i'w gael felly gyda rhyw foddhad ag ydoedd yn ei wneuthur yn werth i'w gael. Wedi'r cyfarfod, dywedais wrtho fod ei anerchiad wedi peri i mi gywilyddio,