Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac atebai yntau nad oedd wedi amcanu hynny, a rywsut neu'i gilydd dechreuodd cyfeillach rhyngom a barhaodd hyd weddill ein hoes ac ni chyfododd dim trwy gydol yr amser i darfu ar ein cyfeillgarwch. Nis bum yn hir heb ddeall ei fod yn ddyn o gydymdeimlad llydan iawn, ac mor ddwfn ag ydoedd o lydan. Ni fyddai yn arfer a dweud rhyw lawer am ei gydymdeimlad, ond pan fyddai dyn ar lawr, byddai gwasgiad ei law ac edrychiad ei lygaid yn dweud mwy ac yn dweud yn well nag araith o awr o hyd. Nid oedd gwendidau chwaith yn rhwystro dim arno, ond pan welai ddyn yn ymysgwyd ac yn treio codi, rhedai ei gydymdeimlad ato'n fwy. "Mae e' wedi pechu; ydyw, y mae o, ond mae e'n ceisio codi, a throi ei wyneb tuag adref," a dyna oedd yn penderfynu y mater gydag efe. Rhyfedd mor lleied a feddyliai o'r dynion "duwiol dros ben" yma, sydd a'u dwy droedfedd bob amser yn barod i fesur cwympiadau pawb, gan anghofio i'r Arglwydd "ewyllysio trugaredd, ac nid aberth, a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoeth-offrymau." Llawer a gondemniodd erioed ar y cyfeillion hynny nad rhaid iddynt wrth feddyg, nac edifeirwch, na dim. Ryw fore, pan oeddwn